Croeso i Loving Welsh Food

 

“Rwy’n dwli ar goginio, pob math o fwyd a diod, ac yn falch iawn o’r cynnyrch
gwych sy gennym ni yma yng Nghymru”‘ Sian Roberts, Perchennog

Mae Loving Welsh Food yn trefnu teithiau blasu, gweithdai coginio a chyflwyniadau ar gyfer grwpiau, lle cewch gyfle i flasu a chlywed am fwyd a diod Cymreig mewn ffordd difyr ac ysgafn.

Mae gennon ni 3 Sian, Ieuan a Ceri yn gweithio gyda ni. Enwau hyfryd sydd wastad yn destun siarad ar ddechrau pob taith gyda’n ymwelwyr! Pob un o’r tim yn siaradwyr Cymraeg ac yn ymddiddori yn ein bwyd, diwylliant a hanes.

Mae’r teithiau, gweithdai a’r cyflwyniadau ar gael yn Gymraeg, Saesneg, Ffrangeg, Eidaleg, Sbaeneg ag Almaeneg.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch a fi gan ddefnyddio’r dudalen cyswllt.