Parti Dolig
Dydd Mawrth 15ed o Rhagfyr 18.00 Pris £15
Ymunwch a Sian Roberts a Nerys Howell i ddathlu’r wyl ar nos Fawrth, 15ed o Rhagfyr am 18 00 a gweld sut i baratoi detholiad hyfryd o dameidiau bach ar gyfer y Nadolig. Cyfle i chi gwrdd a ffrindiau neu gydweithwyr ar lein – tra’n mwynhau blas hyfryd o Gymru o gysur a diogelwch eich soffa.
Eisteddwch yn ol gyda’ch coctel Nadolig,neu coginiwch gyda Nerys. Bydd Sian a Nerys hefyd yn son am eu profiadau difyr yn hybu bwyd a diod o Gymru dros y byd i gyd.
Mae’ch tocyn yn cynnwys:
- Arddangosfa goginio
- Cyfle i gyd-goginio
- Mewnwelediad i fwyd, treftadaeth bwyd a diwylliant Cymru
- Cyfle i ennill gwobr wych
- Profiad Cymreig hamddenol, blasus a diogel.
- Mae 1 tocyn yn cwmpasu’r teulu cyfan
Hyd 1 awr
Pris tocyn £ 15.00
Cyd-goginio – Byddwn yn anfon rhestr o gynhwysion atoch gyda’ch cadarnhad archebu.
Gofynion technegol
Y cyfan sydd ei angen yw gliniadur neu lechen gyda sain, camera adeiledig a rhyngrwyd cyflym. Byddwch yn cael cyfarwyddiadau sefydlu cyn y noson. Mae’n hawdd!
Mae Parti Dolig yn gofyn am isafswm o 15 cyfranogwr (cartrefi) er mwyn rhedeg. Os na fydd y sioe yn cael ei chynnal, gallwn aildrefnu ar gyfer dyddiad diweddarach neu ddarparu ad-daliad llawn o 100%.
Mae’r prisiau i gyd mewn punnoedd Prydeinig sterling.
Currency Selector
If booking the event only.[woocommerce-currency-selector format="{{code}}: {{name}} ({{symbol}})" flag=1]
Please note: International bookers, please leave postcode blank when checking out.