welshcakes

Parti Dolig

Dydd Mawrth 15ed o Rhagfyr 18.00 Pris £15/h4>

Joiwch sip hael o Seidr Cinammon Poeth blasus ynghyd a thafell o Gacen Gri Patagonia cyfoethog – wedi’i blasu â sbeis sbeislyd Barti Ddu!

Dathlwch gyda ni a’ch ffrindiau tra’n mwynhau blas hyfryd o Gymru o gysur a diogelwch eich soffa.

Does dim modd dathlu Dolig ar hyn o bryd – felly os ydych chi’n chwilio am ffordd difyr a newydd o gymdeithasu gyda ffrindiau neu gydweithwyr – beth am brofiad bwyd a diod Cymreig ar lein?

Ymunwch a Sian Roberts a Nerys Howell i ddathlu’r wyl ar nos Fawrth, 15ed o Rhagfyr am 18 00 a gweld sut i baratoi detholiad hyfryd o dameidiau bach ar gyfer y Nadolig.  Cyfle i chi gwrdd a ffrindiau neu gydweithwyr ar lein – tra’n mwynhau blas hyfryd o Gymru o gysur a diogelwch eich soffa. 

Eisteddwch yn ol gyda’ch coctel Nadolig,a mwynhewch y “top tips” a’r straeon am y ryseitiau a’r cynnyrch o Gymru. Neu coginiwch gyda Nerys – .mae’r ryseitiau yn hawdd a syml i ddilyn – a gallwch ofyn gymaint o gwestiynnau ag y mynnwch. Bydd Sian a Nerys hefyd yn son am eu profiadau difyr yn hybu bwyd a diod o Gymru dros y byd i gyd.

“Ry ni wastad yn cael adborth gwych yn ogystal a digon o gwestiynnau a sylwadau diddorol iawn!  Sian Roberts

Cyfle hefyd i ennill “Bwyd Cymru yn eu dymor” llyfr ryseitiau newydd Nerys.

 
Ymunwch a ni, o gysur a diogelwch eich soffa, am awr o goginio hamddenol a hwylus gyda Nerys a Sian, a chyfle i ddysgu mwy am y ryseitiau Nadolygaidd.

Ar y fwydlen:
Diodydd Nadoligaidd – Seidr Poeth gyda sinamon, Te sbeislyd oren a llugaeron
Byrgers bach bara lawr
Seidr, Chorizo a Fale
Bisgedi ceirch a sbelt
Cacen Gri Patagonia (Torta Negra Galesa) .

sian getting tourism award

Mae Sian Roberts o gwmni Loving Welsh Food wedi bod yn rhedeg teithiau bwyd a gweithdai coginio yng Nghaerdydd a’r Fro am ychydig dros 5 mlynedd.   “Mae’r gwesteion wastad yn dwli clywed am ein ryseitiau traddodiadol a chyfoes sydd yn hawdd I baratoi a hyfryd i flasu”. Mae Sian hefyd yn gweithio fel Cyflwynydd i S4C a BBC Radio Wales a wedi body yn hybu bwyd a diod o Gymru ers sbel!

Mae Nerys Howell yn teithio bedwar ban byd i hyrwyddo bwydydd a diodydd o Gymru ac yn ymddangos ar raglenni radio a theledu yn y ddwy iaith. Mae ganddi ei chwmni bwyd ei hun, Howel Food Consultancy ac mae wedi cyhoeddi dau lyfr coginio Cymru ar Blat/Wales on a Plate and Bwyd Cymru yn ei Dymor/ Welsh Food by Season.

 

Mae’ch tocyn yn cynnwys:

  • Arddangosfa goginio
  • Cyfle i gyd-goginio
  • Mewnwelediad I i fwyd, treftadaeth bwyd a diwylliant Cymru
  • Cyfle i ennill gwobr wych
  • Profiad Cymreig hamddenol, blasus a diogel.
  • Mae 1 tocyn yn cwmpasu’r teulu cyfan

Gofynion technegol

Y cyfan sydd ei angen yw gliniadur neu lechen gyda sain, camera adeiledig a rhyngrwyd cyflym. Byddwch yn cael cyfarwyddiadau sefydlu cyn y noson. Mae’n hawdd!

Mae Parti Dolig yn gofyn am isafswm o 15 cyfranogwr (cartrefi) er mwyn rhedeg. Os na fydd y sioe yn cael ei chynnal, gallwn aildrefnu ar gyfer dyddiad diweddarach neu ddarparu ad-daliad llawn o 100%.

Mae’r prisiau i gyd mewn punnoedd Prydeinig sterling.